SL(6)324 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2023

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2023 (“y Rheoliadau hyn”) yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (“y Prif Reoliadau”), sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr sy’n ddibynnol ar incwm yng Nghymru a Lloegr.

Mae Rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gostwng dros dro y gyfradd llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr israddedig a bennir yn rheoliad 21A, ac mewn perthynas â benthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig a bennir yn Rheoliad 21B o'r Prif Reoliadau.

Pennir y gyfradd llog ar 6.9 y cant ar gyfer y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mawrth 2023 ac sy’n gorffen ar 31 Mai 2023. Ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd y gyfradd llog yn dychwelyd i'r gyfradd wreiddiol a bennir yn y Prif Reoliadau.

Gweithdrefn

Negyddol Cyfansawdd

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig.

Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.  Gall Senedd y Deyrnas Unedig hefyd ddirymu'r Rheoliadau, yn unol â'r rheolau ar gyfer dirymu sy'n gymwys i Senedd y Deyrnas Unedig.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, felly mae’r Rheoliadau: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y DU.  O ganlyniad, gwnaed y Rheoliadau yn Saesneg yn unig.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:

“This composite statutory instrument will be subject to UK Parliamentary scrutiny, it is not considered reasonably practicable for this instrument to be made or laid bilingually. Therefore, the 2023 Regulations are made in English only.”

Rhinweddau: Craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau hyn ac na roddwyd unrhyw esboniad yn hyn o beth. Fodd bynnag, nodwn hefyd natur dechnegol y Rheoliadau hyn, a'r ffaith y byddant yn lleihau'r baich ad-dalu am y cyfnod penodedig ar y rhai sy’n dilyn y cyrsiau astudio perthnasol.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Rydym yn falch o nodi bod yr eithriadau perthnasol o God Asesiad Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer Is-ddeddfwriaeth, ynghyd â manylion ategol, wedi'u nodi yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol i gyfiawnhau’r rhesymau am beidio â chynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gobeithiwn y caiff yr arfer hwn ei fabwysiadu’n gyffredinol ar gyfer pob Memorandwm Esboniadol yn y dyfodol lle na gynhelir Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Fodd bynnag, nodwn hefyd y cynhaliwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2022 ("Rheoliadau 2022"), y mae’n ymddangos eu bod wedi’u seilio ar yr union un ddata ariannol (gweler paragraff 4.3 o'r Memorandwm Esboniadol i Reoliadau 2022 a pharagraff 4.2 o'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn). Gan hynny, nid yw'n glir pam na aed ati i atgynhyrchu neu gyfeirio’n ôl at yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwnnw at ddiben y Rheoliadau hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwynt adrodd 3.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Chwefror 2023